Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deisebau


Lleoliad:

 Ystafell Bwyllgora 3

Dyddiad: Dydd Llun, 10 Tachwedd 2025

Amser: 14:00 – 16:00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
15430


Hybrid

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Carolyn Thomas AS (Cadeirydd)

Rhys ab Owen AS

Luke Fletcher AS

Joel James AS

Staff y Pwyllgor:

Gareth Price (Clerc)

Lara Date (Ail Glerc)

Katherine Wheeler (Dirprwy Glerc)

Matthew Sutton (Swyddog Ymchwil Uwch)

 

 

 

 

 

 

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cafwyd ymddiheuriadau gan Vaughan Gething AS, ac nid oedd neb yn dirprwyo ar ei ran.

</AI1>

<AI2>

2       Sesiwn dystiolaeth: Dylid cyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i ddirymu’r drwydded amgylcheddol a sicrhau bod Enovert a’i Safle Tirlenwi’r Hafod yn Wrecsam yn cau

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y prif ddeisebydd, Steve Gittins.

 

</AI2>

<AI3>

3       Deisebau newydd

</AI3>

<AI4>

3.1   P-06-1534 Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru

Cytunodd yr Aelodau i wneud cais i gynnal dadl, ond trafodwyd argaeledd data ar ofal mewn coridorau, ac a fyddai'n well gwneud cais am ddadl cyn toriad y Nadolig, neu ohirio tan y Flwyddyn Newydd pan fyddai ffigurau wedi'u diweddaru ar gyfer y cyfnod anodd ym mis Rhagfyr ar gael i'r Aelodau. Cytunwyd i ofyn i Lywodraeth Cymru am y data sydd ganddi, a gwybodaeth ynghylch sut y mae'n diffinio 'gofal mewn coridorau'. Cytunodd yr Aelodau i ofyn am ddewis y deisebwyr ar gyfer amseriad y ddadl cyn ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes.

 

</AI4>

<AI5>

4       Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

</AI5>

<AI6>

4.1   P-06-1538 Diogelu gwasanaethau strôc llawn yn Ysbyty Bronglais; atal yr israddio i Drin a Throsglwyddo

Cytunwyd i ysgrifennu'n ôl at Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gyda thrawsgrifiad llawn o’r ddadl er mwyn iddynt allu gweld cryfder y teimlad trawsbleidiol ac awgrymiadau'r Aelodau ynghylch y cynigion. Byddai'r ddeiseb yn cael ei chadw ar agor tra'n aros am ymateb y Bwrdd Iechyd.

</AI6>

<AI7>

4.2   P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol

Talodd yr Aelodau deyrnged i'r gwaith pwysig a wnaed ar y mater hwn gan y diweddar Hefin David AS ond teimlent fod y Pwyllgor Deisebau bellach wedi gwneud y cyfan a oedd yn bosibl ei wneud. Wrth gau y ddeiseb, cytunwyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i’w hatgoffa o bwysigrwydd y mater cyfredol hwn, a bod angen ei ddatrys, os nad yn y Senedd hon, yna’n gynnar yn y Senedd nesaf. Gellid nodi'r mater hefyd yn adroddiad gwaddol y Pwyllgor fel blaenoriaeth ar gyfer ei dilyn yn y Senedd nesaf.

 

</AI7>

<AI8>

4.3   P-06-1494 Llywodraeth Cymru i ddiogelu cyllid mewn addysg rhag toriadau Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan nodi mai'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg oedd yn y sefyllfa orau i fwrw ymlaen â hyn, a bod ystyriaeth o'r gyllideb ar gyfer 2026-2027 yn parhau.

 

</AI8>

<AI9>

4.4   P-06-1423 Adfer gwasanaeth bws arfordirol 552 y Cardi Bach yn Ne Ceredigion!

Roedd clod yn ddyledus i'r deisebydd am gadw'r gwasanaeth bws hwn yn flaenllaw ym meddyliau'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau trafnidiaeth, a nodwyd y byddai proses ail-dendro. Gobeithiwyd y byddai gweithredwr yn dod ymlaen, ond roedd y Pwyllgor wedi mynd â'r mater cyn belled ag y gallai, felly diolchodd i'r deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb.

 

</AI9>

<AI10>

4.5   P-06-1444 Mae gan ferched Gogledd Cymru yr hawl i gael Gwasanaethau/Clinig Menopos yn Ysbyty Gwynedd

Roedd yr Aelodau’n ddiolchgar am ymgysylltiad parhaus y deisebwyr, ond roedd bellach yn mynd y tu hwnt i gwmpas y Pwyllgor Deisebau, ac roedd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol mewn gwell sefyllfa i fwrw ymlaen â chwestiynau manwl y deisebwyr. Cytunwyd i gau'r ddeiseb ac anfon y wybodaeth gan y deisebydd ymlaen at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 

</AI10>

<AI11>

4.6   P-06-1426 Dylid gosod goleuadau traffig wrth gylchfan McDonald’s ym Mhont-y-pwl

Roedd gwybodaeth a dderbyniwyd gan yr heddlu yn dangos bod y canlyniad a ddymunir wedi'i gyflawni, ac mae llai o wrthdrawiadau, er y byddai'r sefyllfa'n gofyn am ei monitro’n barhaus. Felly diolchwyd i'r deisebydd am eu deiseb a gafodd ei chau gan y Pwyllgor.

 

</AI11>

<AI12>

4.7   P-06-1440 Sefydlu gwasanaeth rhywedd o dan 18 oed yng Nghymru ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru cyn gynted â phosibl

Diolchwyd i’r deisebwyr am dynnu sylw at y mater. Roedd ymateb y Llywodraeth yn nodi'r ffordd yr oedd gwasanaethau'n cael eu darparu. Teimlwyd bod y Pwyllgor wedi mynd â'r ddeiseb cyn belled ag y gallai, a chytunwyd i’w chau.

 

</AI12>

<AI13>

4.8   P-06-1445 Newid Treth Trafodiadau Tir ar gyfer y rheini sy’n prynu cartref am y tro cyntaf yng Nghymru, i fod yn unol â Llywodraeth y DU

Roedd yn amlwg nad oedd Llywodraeth Cymru yn mynd i newid ei safbwynt ar y Dreth Trafodiadau Tir. Mynegodd Joel James AS siom gydag ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet. Yn y dyfodol byddai'n fater i faniffestos y pleidiau. Felly, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.

 

</AI13>

<AI14>

4.9   P-06-1487 Darparu croesfan i gerddwyr ar yr A4042 yn Llanofer; ei gwneud yn ddiogel i ddefnyddwyr bysiau a gostwng y terfyn cyflymder.

Datganodd Joel James AS fuddiant perthnasol yn unol â Rheol Sefydlog 17.42A gan ei fod yn adnabod y prif ddeisebydd.

Croesawodd yr Aelodau y datblygiadau a amlinellwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet a nodwyd bod y mater yn cael ei symud ymlaen yn weithredol fel mater lleol gan Aelodau etholedig lleol. Barn y mwyafrif o’r Aelodau oedd ei bod hi’n well gadael y mater yn nwylo’r Aelodau lleol nawr, ac felly cytunwyd i gau’r ddeiseb.

 

</AI14>

<AI15>

4.10 P-06-1464 Caniatáu i deuluoedd Cymru sydd wedi colli baban cyn 24 wythnos gael tystysgrif colli baban

Nododd yr Aelodau fod y Gweinidog wedi dweud bod problemau technegol i'w datrys cyn cyflwyno'r tystysgrifau yng Nghymru. Roedd yn fater cenedlaethol a chytunodd y Pwyllgor mai’r cyfan oedd ei angen oedd i’r Llywodraeth roi dyddiad iddo y byddai’r tystysgrifau’n cael eu cyflwyno yng Nghymru, yn enwedig gan eu bod ar gael yn Lloegr nawr. Byddai llythyr pellach yn cael ei anfon at y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i ymateb gyda dyddiad penodol. Byddai'r ddeiseb yn cael ei chadw ar agor nes bod y dyddiad hwnnw wedi'i gadarnhau.

 

</AI15>

<AI16>

4.11 P-06-1489 Deddfu i sicrhau bod briciau gwenoliaid duon yn cael eu gosod ym mhob adeilad newydd yng Nghymru

Ni chafodd y Pwyllgor ei argyhoeddi gan ddadl yr Ysgrifennydd Cabinet dros beidio â'i gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr osod briciau gwenoliaid duon. O hyn ymlaen, byddai'r mater hwn yn fater i faniffestos pleidiau ac i Aelodau ei godi'n unigol. Felly cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.

 

</AI16>

<AI17>

5       Papurau i'w nodi

</AI17>

<AI18>

5.1   P-06-1427 Dylid creu cynllun traffig cynaliadwy ar gyfer Dyffryn Rhiangoll

Nododd yr Aelodau y papur.

</AI18>

<AI19>

6       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cytunwyd ar y cynnig gweithdrefnol.

 

</AI19>

<AI20>

7       Trafod y dystiolaeth: Dylid cyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i ddirymu’r drwydded amgylcheddol a sicrhau bod Enovert a’i Safle Tirlenwi’r Hafod yn Wrecsam yn cau

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd. Bydd adroddiad drafft yn cael ei drafod ar gyfer cytuno arno mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

</AI20>

<AI21>

8       Adolygiad o Reol Sefydlog 23 a'r Broses Ddeisebu: Cynigion

Trafododd yr Aelodau y papur a chytuno i: 

a) ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes gyda rhai newidiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 23, i’r Pwyllgor hwnnw eu hystyried - yn ymwneud â statws y pwyllgor fel un sydd wedi’i neilltuo i ystyried deisebau, ac i egluro’r broses o ystyried deisebau;

b) cynnig rhai gwelliannau bach i Benderfyniad y Llywydd ar Ffurf Briodol Deisebau Cyhoeddus er mwyn eglurder, yn enwedig mewn cysylltiad â derbyniadwyedd deisebau ar ganiatadau cynllunio ar gyfer Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DAC);

c) nodi bod y trothwyon presennol ar gyfer ystyriaeth a thrafodaeth yn parhau’n briodol;

c) nodi'r ymatebion cyhoeddedig i'w ymgynghoriad targedig ar y broses ddeisebu yn y dyfodol a'r materion a godwyd gan ymatebwyr, gan gynnwys yr awgrym y gallai pwyllgor olynol fod eisiau cynnal ymchwiliadau thematig ar bynciau penodol gyda nifer o ddeisebau cysylltiedig;

d) mabwysiadu dull tebyg o drosglwyddo deisebau rhwng y Chweched Senedd a'r Seithfed Senedd ag a fabwysiadwyd rhwng y Pumed Senedd a'r Chweched Senedd. Byddai hyn yn cynnwys atal llofnodion ar ddeisebau agored yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad, ac adolygiad o'r holl ddeisebau sy'n cael eu hystyried cyn y diddymiad i benderfynu ar gamau gweithredu pellach, gan gynnwys a ddylid cau deisebau neu eu cyfeirio i'r Seithfed Senedd; a

e) nodi y byddai rhai materion a drafodwyd yn cael eu nodi yn adroddiad gwaddol y Pwyllgor, i'w hystyried gan y Seithfed Senedd.

</AI21>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>